Yr Ymgyrch Ddatganoli Yng Nghymru
18 Awst 1997
Cwtogi Ar Y Cwangos I Dalu Costau Cynulliad, Medd Ysgrifennydd Cymru
Maer'r Ysgrifennydd Gwladol Ron Davies wedi addo y byddai cwtogi ar nifer y
"cwangos" yng Nghymru yn talu am gostau rhedeg Cynulliad Cymreig.
Amcangyfrifir y byddai Cynulliad yn costio rhwng £15m a £20m y flwyddyn i'w redeg ac mae gwrthwynebwyr wedi honni y byddai hyn yn golygu llai o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ond yn ôl Mr Davies, byddai torri ar fiwrocratiaeth y cwangos yn cwrdd â'r gost yn llawn a dywedodd na fyddai gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef toriadau ariannol yn sgil sefydlu Cynulliad.
Gwrthodwyd dadl Mr Davies gan lefarydd ar ran yr ymgyrch Dywedwch Na, a ddywedodd mai'r cwbl y byddai'r Llywodraeth yn ei wneud oedd cael gwared ag un haen o fiwrocratiaeth a sefydlu un arall yn ei le. Yn ôl yr Athro Nick Bourne, gwell fyddai gwario'r arbedion o'r cwangos ar wasanaethau hanfodol yn hytrach nag ar Gynulliad.
Rhybudd I Fyd Busnes Am "Gyfaddawd"
Dywed Fforwm Busnes Preifat y dylai busnesau Cymru ystyried yn ofalus effaith datganoli ar eu cwmniau, gan ddweud y gallai'r cynlluniau fod yn "gyfaddawd anhapus" i Gymru.
Yn ôl llefarydd, fe allai materion Cymreig gael llai o sylw yn San Steffan
ar yr un llaw, tra byddai cadw hawliau deddfu yn San Steffan cyfyngu'n sylweddol ar bwerau'r Cynulliad. Bydd y Fforwm yn cynnal pleidlais ymysg ei aelodau cyn penderfynu ar bolisi.
|