Referendums BBC Wales Scotland Devolution
Sidebar



Yr Ymgyrch Ddatganoli Yng Nghymru
20 Awst 1997

Y Swyddfa Gymreig Yn Penodi Cyn-Bennaeth Prifysgol Bangor I Arolygu'r Refferendwm

Pennaeth Y Cyfri Ar Y Noson Fawr


Mae'r Swyddfa Gymreig wedi penodi Prif Swyddog Etholiadol ar gyfer y refferendwm ar Gynulliad Cymreig.

Bydd cyn-bennaeth Coleg y Brifysgol Bangor yr Athro Eric Sunderland, sy'n 67 oed, yn arolygu'r cyfri ac yn cyhoeddi'r canlyniadau yng Nghaerdydd wedi'r bleidlais ar Fedi 18fed.

Bydd y pleidleisiau'n cael eu cyfri ar y noson mewn 22 o ganolfannau'r awdurdodau unedol, ac fe fydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi yn lleol ac mewn Canolfan Cyfri Genedlaethol yn y brifddinas.

Disgwylir i'r canlyniad terfynol gael ei gyhoeddi yn y Ganolfan Genedlaethol yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yn ystod oriau man Dydd Gwener Medi'r 19eg.


Cynnuliad Yn "Denu Swyddi O'r Gymru Wledig"


Wrth i'r mudiad Dywedwch Na lawnsio eu hymgyrch leol ddiweddaraf yn Aberhonddu, cafwyd rhybudd ganddyn nhw y gallai'r Cynulliad arwain at golli swyddi yng nghefngwlad - wrth i fudiadau ymgyrchu gael eu denu at gartre'r Cynulliad yng Nghaerdydd.

Tynnwyd sylw at benderfyniad diweddar y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, yr RSPB, i symud o'r Drenewydd ym Mhowys i'r brifddinas.

Ymgyrch Liwgar Gan Gefnogwyr "Ie"

Artistiaid Cymru yw'r grˆwp diweddaraf i roi eu cefnogaeth i'r ymgyrch Ie Dros Gymru . Dadorchuddiwyd cerflun Ie Dros Gymru ym Mae Caerdydd, a dywedodd aelodau'r grˆwp eu bod yn bwriadu cynnal cyfres o ddigwyddiadau er mwyn dod â rhywfaint o liw i'r ymgyrch ddatganoli.


Back to top
Animation Navigation


  News | Briefing | Live | Links | People & Places | Games | Diaries
Scotland | Wales | Home
 
News Politics97 Top
News Briefing Live Links People & Places Games Diaries