|
Yr Ymgyrch Ddatganoli Yng Nghymru
21 Awst 1997
"Llais o Lais I Ffermwyr Yn Ewrop"
Cafwyd rhybudd gan yr ymgyrch Dywedwch Na y gallai ffermwyr golli
eu llais ar Gyngor Gweinidogion Ewrop pe byddai Cynulliad Cymreig yn cael ei
sefydlu.
Yn ôl Rob Watkins, sy'n ffermio yn Nolau ym Mhowys, ni fyddai gan y Cynulliad gynrchyiolaeth ar Gyngor Gweinidogion Ewrop - yn wahanol i Senedd Arfaethedig yr Alban. byddai'n rhaid i ffermwyr Cymru, meddai, ddibynnu ar Weinidog o Leogr i gynrychioli eu buddiannau ac fe fyddant yn cael eu trin fel dinasyddion eil-radd.
Ser Y Byd Rygbi Yn Cefnogi Cynulliad
Roedd seren tîm y Llewod, Neil Jenkins, ymhlith aelodau o dîm Pontypridd -
pencampwyr rygbi Cymru - fu'n datgan eu cefnogaeth heddiw i'r Ymgyrch Ie Dros Gymru.
Yn y cyfamser, yng Nghaerdydd, fe lawnsiwyd ymgyrch o blaid datganoli gan yr undebau iechyd - Gweithwyr Iechyd yn Dweud Ie . Dywedodd Jeff Baker, swyddog rhanbarthol gydag undeb Unsai, y byddai Cynulliad yn gwneud y gwasanaeth iechyd yn fwy atebol.
|
|