Yr Ymgyrch Ddatganoli Yng Nghymru
26 Awst 1997
Papur Gwyn "Poblogaidd" Yn Y Post
Mae crynodeb o gynlluniau'r llywodraeth i sefydlu Cynulliad Cymreig yn cael eu dosbarthu i bob ty yng Nghymru yr wythnos hon. Fe ymunodd Ysgrifennydd Cymru Ron Davies â rhai o weithwyr Swyddfa'r Post wrth iddyn nhw bostio rhai o'r taflenni cyntaf yn y brifddinas y bore ma. Mae'r Swyddfa Gymreig hefyd wedi cynhyrchu hysbyseb teledu 20 eiliad o hyd i'w ddarlledu ar HTV Cymru ac S4C. Yn ôl ymgyrchwyr yn erbyn Cynulliad, mae'r hysbysrwydd yn croesi'r ffin rhwng gwybodaeth a gwleidyddiaeth - ond mynna'r Swyddfa Gymreig mai'r unig fwriad yw annog pobl i fwrw pleidlais ar Fedi 18fed.
CBI Cymru Yn Gwadu Eu Bod Yn Gwrthwynebu Cynulliad
Mae Cymdeithas y Cyflogwyr wedi mynegi anfodlonrwydd yn dilyn honiad yn un o daflenni'r ymgyrch Dywedwch Na eu bod yn gwrthwynebu Cynulliad Cymreig. Yn ôl CBI Cymru maen nhw wedi bod yn niwtral ar bwnc datganoli yn ystod yr ymgyrch. Dywed yr ymgyrch Na na fyddan nhw'n newid y daflen sy'n hawlio bod y CBI o'r farn y byddai Cynulliad yn mygu mentrau busnes.
Seren "This Life" A Bryn Terfel Yn Datgan Cefnogaeth
Mae'r ymgyrch Ie Dros Gymru wedi cael cefnogaeth rhagor o sêr y byd adloniant. Ymhlith y diweddaraf y mae Jason Hughes o Borthcawl, a ddaeth i amlygrwydd yn y gyfres deledu boblogaidd "This Life" ar y BBC pan fu'n actio'r cymeriad Warren. Datgelwyd hefyd bod y canwr opera Bryn Terfel yn cefnogi'r ymgyrch. Mae'r ddau yn ymuno ag enwogion eraill sydd wedi datgan o blaid, gan gynnwys rhai o fyd chwaraeon (y chwaraewr pêl-droed Ryan Giggs a'r chwaraewr rygbi Neil Jenkins), o fyd y celfyddydau (yr actores Sian Phillips) a'r cyflwynydd tywydd Sian Lloyd.
Safle Ar Y We I'r Ymgyrch Na
Cyhoeddodd yr ymgyrch Dywedwch Na eu bod wedi sefydlu safle arbennig ar y rhyngrwyd. Cyfeiriad y safle ar y we yw www.justsayno.org.UK .
Yn y cyfamser, sefydlwyd grwp ymgyrchu lleol arall gan yr ymgyrch yn erbyn Cynulliad - y tro hwn ym Mro Morgannwg. Bu'r grwp yn casglu enwau ar ddeiseb ym marchnad y Barri.
|