Yr Ymgyrch Ddatganoli Yng Nghymru
27 Awst 1997
Rheolau Newydd I Ymgeiswyr Y Cynulliad
Datgelwyd heddiw fod y Blaid Lafur yn bwriadu cyflwyno rheolau newydd ar gyfer
dewis ymgeiswyr y blaid ar gyfer Cynulliad Cymreig - os bydd yna bleidlais Ie ar Fedi'r 18fed.
Byddai Pwyllgor Gwaith y blaid yng Nghymru yn dethol panel o enwau derbyniol -
a dim ond pobl ar y panel fyddai'n gallu sefyll ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.
Mewn ymgais i ddenu'r hyn y mae e'n ei alw'n ymgeiswyr o safon uchel ar gyfer
y Cynulliad, mae'r Ysgrifennydd Gwladol, Ron Davies, yn sôn am greu
diwylliant gwleidyddol newydd - gydag ymgeiswyr yn cael eu dewis ar sail eu gallu ac nid ar sail gwasanaeth hir i'r blaid.
Y CBI Yn Ymateb I Gynlluniau'r Llywodraeth
Mae Cymdeithas y Cyflogwyr yng Nghymru wedi cyhoeddi ei hymateb i gynlluniau'r Llywodraeth i sefydlu Cynulliad Cymreig. Mae'r adroddiad yn croesawu pwyslais y Papur Gwyn ar bwysigrwydd safbwyntiau busnes i'r broses o ddeddfu, ond mae'n mynegi rhai pryderon am gostau. Yn wahanol i 1979 pan fu'r CBI yn ymgyrchu yn erbyn datganoli, mae'r Gymdeithas - er yn llugoer o hyd tuag at y cynlluniau datganoli - wedi ymbellhau oddi wrth yr ymgyrch Na y tro hwn.
Ymgyrchwr Dywedwch Na Ar Daith Yn Y Cymoedd
Mae'r cefnogwyr yr ymgyrch Dywedwch Na wedi bod ar wibdaith o gwmpas cymoedd y de mewn bws to-agored. Yn ôl eu llefarydd Carys Pugh, y nôd oedd annog pobl i bleidleisio Na ar Fedi'r 18fed a mynnodd nad pob aelod o'r Blaid Lafur oedd yn gefnogol i gynlluniau datganoli'r llywodraeth.
Democratiaid Rhyddfrydol Yn Lawnsio Ymgyrch Ie
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi lansio eu hymgyrch dros bleidlais Ie yn y refferendwm ar Gynulliad Cymreig. Dywed y blaid bod cyfle hanesyddol gan bobl Cymru i sefydlu eu Cynulliad eu hunain - er fod y blaid am weld senedd Cymreig gyda mwy o bwerau nag sy'n cael eu cynnig gan y llywodraeth.
|