Referendums BBC Wales Scotland Devolution
Sidebar



Yr Ymgyrch Ddatganoli Yng Nghymru
28 AWST 1997

Cynghorau Yn Cefnogi Cynulliad

Arweinwyr Cyngor O Blaid Datganoli
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datgan cefnogaeth i gynlluniau'r llywodraeth i sefydlu Cynulliad Cymreig. Wedi cyfarfod gydag Ysgrifennydd Cymru Ron Davies heddiw, galwodd arweinwyr 19 o`r 22 o gynghorau am bleidlais Ie yn y refferendwm, gan ddweud y byddai Cynulliad yn cryfhau llywodraeth leol.
Roedd y cynghorau yn allweddol ym methiant cynlluniau datganoli 1979.


Rhybudd I Gynghorau Gwledig
Cafwyd rhybudd gan Aelod Seneddol Llafur Llanelli Denzil Davies y gallai rhai cynghorau mewn aradaloedd gwledig fod ar eu colled petae Cynulliad yn cael ei sefydlu. .
Dywedodd Mr Davies bod na beryg y byddai'r ardaloedd mwayf poblog - Cymoedd y De, Caerdydd ac Abertawe - yn denu'r cyllid mwyaf wrth i'r Cynulliad fynd ati i rannu'r gacen ariannol.

Mae Mr Davies yn un o'r ychydig Aelodau Seneddol Llafur sydd wedi codi amheuon ynglyn a chynlluniau datganoli'r llywodraeth.

Actorion Yn Chwarae Rhan Yn Yr Ymgrych Ie
Daeth nifer o actorion at ei gilydd mewn theatrau yng Nghaerdydd a Bangor i ddatgan cefnogaeth i'r ymgyrch Ie Dros Gymru . Yn Ùl y trefnydd, Judith Humphreys (sy'n chwarae rhan Dr Rachel yn y gyfres Pobol-y-Cwm), roedd actorion o'r farn y byddai Cynulliad yn atgyfnerthu pob agwedd o fywyd a diwylliant Cymreig.

Cadeirydd Plaid Lafur Blaenau Gwent Yn Gwrthwynebu
Mae Cadeirydd y Blaid Lafur leol yn etholaeth Blaenau Gwent o dan bwysau i ymddiswyddo oherwydd ei wrthwynebiad i Gynulliad Cymreg. Fe fydd sefyllfa Malcolm Thomas yn cael ei drafod mewn cyfarfod o'r pwyllgor gwaith lleol yr wythnos nesaf. Mae Mr Thomas, sy'n 64 oed, wedi bod yn ymgyrchu ar ran yr ymgyrch Na yn yr etholaeth - sedd yr Aelod Seneddol Llafur Llew Smith sydd yn erbyn cynlluniau datganoli'r Llywodraeth.

Back to top
Animation Navigation


  News | Briefing | Live | Links | People & Places | Games | Diaries
Scotland | Wales | Home
 
News Politics97 Top
News Briefing Live Links People & Places Games Diaries