Referendums BBC Wales Scotland Devolution
Sidebar



Yr Ymgyrch Ddatganoli Yng Nghymru
1 Medi 1997

Gohirio'r Ymgyrchu Datganoli

Mae'r ymgyrchu yn y refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru wedi'i ohirio yn dilyn marwolaeth Diana, Tywysoges Cymru. Bydd yn ail-ddechrau Ddydd Llun Medi 8fed, wedi angladd y Dywysoges ddydd Sadwrn.
Cadarnhaodd y llywodraeth y byddai'r refferendwm yn mynd yn ei flaen ar Ddydd Iau Medi'r 18fed, yn unol â'r hyn a drefnwyd. Byddai'n rhaid ail-ymgynnull y Senedd er mwyn newid dyddiadau'r pleidleisio yng Nghymru a'r Alban ac nid oes disgwyl i hynny ddigwydd.
Cadarnhaodd y Swyddfa Gymreig na fyddai'r Ysgrifennydd Gwladol Ron Davies na'i gyd-weinidogion yn y Swyddfa Gymreig yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau gwleidyddol yr wythnos hon. Cafwyd datganiadau tebyg gan y pleidiau gwleidyddol eraill. Cafwyd cadarnhad hefyd gan yr ymgyrchoedd Ie Dros Gymru a Dywedwch Na eu bod yn gohirio eu hymgyrchu nhw tan yr wythnos nesaf.

Back to top
Animation Navigation


  News | Briefing | Live | Links | People & Places | Games | Diaries
Scotland | Wales | Home
 
News Politics97 Top
News Briefing Live Links People & Places Games Diaries