Referendums BBC Wales Scotland Devolution
Sidebar



Yr Ymgyrch Ddatganoli Yng Nghymru
8 Medi 1997

Ymgyrchu'n Ail-Ddechrau Yn Y Refferendwm

Aelod Seneddol Llafur I Bleidleisio Na

Cyhoeddodd yr Aelod Seneddol Llafur Syr Ray Powell y bydd e'n pleidleisio yn erbyn Cynulliad Cymreig yn y refferendwm ar Ddydd Iau Medi 18fed. Dywedodd yr aelod dros Ogwr ei fod e'n anhapus â'r cynllun i ethol traean o aelodau'r cynulliad ar sail cynrychiolaeth gyfranol ac fe gyhuddodd ei blaid o dorri addewid a wnaed yn ystod yr etholiad i gwtogi'n sylweddol ar nifer y cwangos. Syr Ray yw'r Aelod Seneddol Llafur cyntaf i ddatgan yn gyhoeddus ei fwriad i bleidleisio NA yn y refferendwm.

Lleisiwyd pryderon tebyg am y cwangos gan Aelod Seneddol Llafur Llanelli, Denzil Davies. Dywedodd y cyn weinidog yn y Trysorlys bod y llywodraeth wedi cefnu ar ei addewid i ddiddymu'r cwangos. Yn ôl Mr Davies, fe fyddai'r Cynulliad yn eistedd "ochor yn ochor" â'r cwangos, heb bwerau uniongyrchol i gael gwared â'r cyrff anetholedig yma.

Gwrthod y feirniadaeth wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Ron Davies, gan ddweud bod Syr Ray wedi'i ethol ar sail ymrwymiad Llafur i sefydlu Cynulliad. Fe wnaeth Mr Davies ei sylwadau wrth lawnsio cymal olaf ymgyrch ddatganoli'r blaid Lafur. Rhestrodd deg adduned ar gyfer y Cynulliad a fyddai, meddai, yn sicrhau dyfodol gwell i Gymru, gyda mwy o swyddi, ysgolion gwell a gwell gwasanaeth iechyd gwell.

Ymweliad Hague

Bu arweinydd y Ceidwadwyr William Hague yn ymweld â'r gogledd a'r de i alw am bleidlais NA yn y refferendwm. Dywedodd y byddai'n amddiffyn Cymru weddill ei oes ac y byddai'n gwneud ei orau glas yn y frwydr yn erbyn cynlluniau datganoli'r llywodraeth. Heno, mewn cyfarfod o arweinwyr busnes yng Nghaerdydd, bydd Mr Hague yn rhybuddio eto y byddai cynlluniau Llafur i greu Cynulliad yn bygwth ffyniant a sefydlogrwydd Cymru yn y dyfodol.

Ymgyrchoedd Newydd O Blaid Ac Yn Erbyn

Cafodd grwp Pensiynwyr Yn Dweud Ie ei lawnsio yn Abertawe gan yr ymgyrch Ie Dros Gymru ynghyd a siop Ie yng Nghaernarfon. Yng Nghaerdydd, fe gafodd grwp Cyfreithwyr Yn Dweud Ie ei sefydlu yng ngwydd y Twrne Cyffredinol John Morris A.S.

Mae'r ymgyrch Dywedwch NA wedi dadlenni eu prif daflen ymgyrchu yn Abertawe. Bydd miliwn o gopiau yn cael eu dosbarthu ledled Cymru. Yn Aberystwyth, cafodd ymgyrch Dywedwch Na Ceredigion ei lawnsio gan y cynghorydd lleol Gareth Ellis.

Back to top
Animation Navigation


  News | Briefing | Live | Links | People & Places | Games | Diaries
Scotland | Wales | Home
 
News Politics97 Top
News Briefing Live Links People & Places Games Diaries