Referendums BBC Wales Scotland Devolution
Sidebar



Yr Ymgyrch Ddatganoli Yng Nghymru
9 Medi 1997

Aelodau Llafur Yn Gwrthwynebu

Dau A.S. Llafur Arall I Bleidleisio Na

Cyhoeddodd dau Aelod Seneddol Llafur arall y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn Cynulliad Cymreig yn y refferendwm ar Fedi'r 18fed. Dywed Aelod Seneddol y Rhondda Allan Rogers ei fod e'n anhapus ynglyn â'r modd fyddai aelodau'r Cynulliad yn cael eu hethol - yn rhannol drwy gynrychiolaeth gyfranol - ac mae'n dweud nad oes digon yn cael ei wneud i gael gwared â'r cyrff cyhoeddus anetholedig neu'r cwangos. Cadarnhaodd swyddfa Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Abertawe Alan Williams wth BBC Cymru y byddai yntau'n pleidleisio Na . Maen nhw'n ymuno ag Aelod Seneddol Blaenau Gwent Llew Smith ac aelod Ogwr Syr Ray Powell sydd eisioes wedi datgan eu gwrthwynebiad. Pwysleisio mae'r Blaid Lafur bod 30 o'i 34 o Aelodau Seneddol yn debygol o bleidleisio o blaid Cynulliad yr wythnos nesaf.

Cadeirydd CBI Cymru Yn Ymosod ar Honiadau'r Ymgyrch Na

Mae Cadeirydd Cymdeithas y Cyflogwyr yng Nghymru wedi beirniadu ymgyrchwyr gwrth-ddatganoli sy'n dweud y gallai swyddi gael eu colli pebai Cynulliad Cymreig yn cael ei sefydlu. Dywedodd Ian Spratling nad oedd unrhyw dystiolaeth o gwbl i brofi hynny. Yn ôl Ysgrifennydd Cymru Ron Davies, fe gafodd cyfarfod adeiladol gyda Mr Spratling pan fu'n rhoi sicrwydd na fyddai Cynulliad yn golygu rhagor o fiwrocratiaeth i fusnesau.

Llefarydd Cyfansoddiadol y Toriaid Ar Daith Fusnes

Dywed Llefarydd y Ceidwadwyr ar Faterion Cyfansoddiadol Michael Ancram y byddai na faich ychwanegol ar fusnesau petae Cynulliad Cymreig yn cael ei sefydlu. Bu'n cwrdd â pleidleiswyr Na yn ystod ymweliadau â busnesau yng Nghasnewydd a cymoedd Gwent.

Back to top
Animation Navigation


  News | Briefing | Live | Links | People & Places | Games | Diaries
Scotland | Wales | Home
 
News Politics97 Top
News Briefing Live Links People & Places Games Diaries