Referendums BBC Wales Scotland Devolution
Sidebar



Yr Ymgyrch Ddatganoli Yng Nghymru
11 Medi 1997

Cymru I Gael Cynrychiolaeth yn Ewrop - Ron Davies

Cyhoeddodd Ysgrifennydd Cymru Ron Davies y byddai gan y Cynulliad Cymreig hawliau trafod yng Nghyngor Gweinidogion Ewrop wedi'r cwbl. Dywedodd y byddai cynrychiolydd o'r Cynulliad yn gallu siarad ar ran dirprwyaeth y Deyrnas Unedig mewn cyfarfodydd o Gyngor y Gweinidogion. Roedd 'na ofnau y byddai Cymru dan anfantais o gymharu â'r Alban, a fyddai'n cael hawliau tebyg petai Senedd yn cael ei sefydlu yn dilyn y refferendwm yno heddiw.

Mae amheuon o hyd gan Denzil Davies, Aelod Seneddol Llafur Llanelli. Dywedodd bod hyn yn awgrymu elfen o ddryswch ac nad oedd gan unryw aelod o gyrff rhanbarthol Ewrop hawliau trafod ar hyn o bryd yng Nghyngor y Gweinidogion.

Ond dywed y Llywodraeth nawr y bydd cynrychiolydd o'r Cynulliad yn gallu eistedd ochor yn ochor â Gweinidog Prydain yn y Cyngor pan fydd materion perthnasol dan sylw. Y ddadl yw y byddai gan y Cynulliad ddylanwad uniongyrchol nawr ar bolisi Prydain yn Ewrop.

Arweinwyr Gwleidyddol yn ymweld â Chymru

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Paddy Ashdown ar daith deuddydd o gwmpas Cymru wrth i ddiwrnod y refferendwm nesau. Wrth annerch pleidleiswyr i gefnogi Cynulliad Cymreig, dywedodd y byddai'n "agor y drws i foderneiddio cyfansoddiadol ledled y Deyrnas Unedig".

Roedd y Dirprwy Brif Weinidog John Prescott hefyd yng Nghymru, yn ymweld â chymoedd y De. Heno fe fydd yn gwneud araith allweddol i roi hwb i'r bleidlais IE, oriau'n unig cyn dechrau'r cyfrif yn yr Alban.

Ymgyrchwyr "Na" yn amau cost y Cynulliad

Aeth ymgyrchwyr yn erbyn Cynulliad Cymreig â'u neges i Sir Benfro heddiw, gan ddadlau mai'r hyn sydd ei angen yw canolbwyntio ar lywodraeth leol yn hytrach na gwario arian ar Gynulliad yng Nghaerdydd. Yn ôl Peter Stock - cadeirydd yr ymgyrch Dywedwch Na ym Mhenfro - fyddai Cynulliad yn gwneud dim i ddod â democratiaeth yn ôl i'r sir.

Back to top
Animation Navigation


  News | Briefing | Live | Links | People & Places | Games | Diaries
Scotland | Wales | Home
 
News Politics97 Top
News Briefing Live Links People & Places Games Diaries