Yr Ymgyrch Ddatganoli Yng Nghymru
12 Medi 1997
Yr Alban Yn Pleidleisio Ie
Pleidleisiodd pobl yr Alban o fwyafrif mawr o blaid cael Senedd gyda'r hawl i godi neu ostwng trethi yn y refferendwm ar ddatganoli. Yn ôl ymgyrchwyr dros Gynulliad Cymreig, fe fydd y canlyniad yn rhoi hwb i'r bleidlais Ie yn y refferendwm yng Nghymru ar Fedi'r 18fed. Dywed yr ymgyrch Dywedwch Na bod y sefyllfa yn y ddwy wlad yn gwbl wahanol.
Ar ôl ymweld â'r Alban, daeth y Prif Weinidog Tony Blair i Gymru. Yn ystod ei ymweliad â Chaerdydd, galwodd Mr Blair am bleidlais Ie yn y refferednwm ar Gynulliad Cymreig. Dywedodd bod yn rhaid dod â llywodraeth yn nes at y bobl ac mai dyma'r amser i roi terfyn ar yr hen gyfundrefn. Yn gynharach, bu'r Canghellor Gordon Brown yn y brifddinas lle dywedodd ei fod yn ffyddiog y byddai'r bleidlais o blaid Cynulliad Cymreig yr un mor gryf â'r canlyniad yn yr Alban.
Yn ôl Llywydd Plaid Cymru Dafydd Wigley, roedd pobl yr Alban wedi dangos y ffordd ymlaen i Gymru. Gyda chynlluniau ar y gweill i gynnig cyfle i Lundain a rhanbarthau Lloegr sefydlu eu Cynulliad etholedig eu hunain yn y dyfodol agos, meddai, roedd hi'n amlwg bod yn rhaid i Gymru fanteisio ar y cyfle i sefydlu Cynulliad.
Nid pawb oedd mor frwd. Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr William Hague bod y canlyniad yn yr Alban wedi arwain at "noson drist" i'r Deyrnas Unedig ac addawodd y byddai'n brwydro dros bleidlais Na yn y refferendwm ar Gynulliad Cymreig, gan ddweud mai cysgod gwan o'r hyn a gynnigiwyd i'r Alban oedd gerbron pobl Cymru.
Gwrthod yr honiad wnaeth un o arweinwyr yr ymgrych Na yr Athro Nick Bourne bod y gefnogaeth gref i Senedd yn yr Alban yn golygu bod y frwydr yn erbyn Cynulliad Cymreig wedi'i cholli. Mynnodd y byddai'r ymgyrch Na yn dal ati. Roedd y llywodraeth, meddai, yn ceisio cael sêl bendith ar gyfer Cynulliad Cymreig yn slei bach a hynny ar gefn canlyniad yr Alban. Roedd o'r farn y byddai pobl Cymru yn sylweddoli hynny ac yn pleidleisio i'r gwrthwyneb.
Yn wahanol i Senedd yr Alban, ni fyddai gan y 60 aleod o'r Cynulliad Cymreig yr hawl i ddeddfu nac i amrywio lefel y dreth ond fe fyddai ganddo reolaeth dros gyllideb flynyddol y Swyddfa Gymreig o £7 biliwn.
|